SgriptByd Bach Berikut Elin Morse dengan ringkasan ... - Botwm y Byd

3 downloads 187 Views 106KB Size Report
Berikut Elin Morse dengan ringkasan berita dari Indonesia. Dyma Elin ... O fewn y system ysgol mae yna SMP sef ysgol iau i blant hyd at 13 mlwydd oed ac yna.
SgriptByd Bach Berikut Elin Morse dengan ringkasan berita dari Indonesia. Dyma Elin Morse gyda chrynodeb o newyddion Indonesia, Mai 2013

Bydda i’n edrych ar bapurau Indonesia'r wythnos hon gan ganolbwyntio ar bapur dyddiol Suara Pembaruan (llais newydd), Tempo (cylchgrawn wythnosol), Jakarta Post (papur dyddiol), Republika (papur Mwslimaidd dyddiol), Kompas (papur mwyaf poblogaidd y wlad).

Papurau arholiad Cenedlaethol– (Suara Pembaruan) Mae Indonesia yn wlad enfawr sy’n cynnwys dros 17,000 o ynysoedd - rhai enwocaf megis Jawa a Bali. Mae’r papurau newyddion cenedlaethol yn cael eu creu yn Jawa ac o’r ynys yma mae’r wlad yn cael ei rheoli. Un o’r prif storiâu'r wythnos hon yw’r stori am bapurau arholiadau cenedlaethol y wlad. O fewn y system ysgol mae yna SMP sef ysgol iau i blant hyd at 13 mlwydd oed ac yna ysgol uwchradd SMA o 13 tan 18. Eleni fe gynhaliwyd arholiadau blwyddyn olaf SMA ar y 15fed o Ebrill - arholiad tebyg i lefel A. Mae yna 34 talaith yn rhan o wlad Indonesia ac roedd disgwyl i’r papurau arholiad fod yn y mannau priodol erbyn y dyddiad yma. Ac mae hynny yn dipyn o gamp i feddwl bod tir Indonesia yn gorchuddio dros 700,000 milltir sgwâr Yn anffodus ni chyrhaeddodd y papurau 11 o daleithiau. Bu’n rhaid i’r taleithiau hynny eistedd y papurau 3 diwrnod ar ôl y dyddiad penodol. Ac ers hynny mae’r papurau wedi bod yn fwrlwm o gyhuddiadau a phawb yn beio’i gilydd o bob cyfeiriad . Rhai yn beio’r gweinidog addysg , eraill yn rhoi bai ar y wasg a enillodd y tendr i brintio’r papurau. Ac yn hyn i gyd mae yna blant ym mhob rhan o’r wlad mewn ansicrwydd - Mae cyfreithwyr Tŷ’r Cynrychiolwyr

yn dweud bod angen i’r Gweinidog Addysg - Muhammad Nuh - gyhoeddi bod pob disgybl wedi pasio. Ond byddai hynny, yn yr hir dymor, yn effeithio ar brifysgolion y wlad. Ond beth sy’n ddiddorol yw’r ffaith fod y papurau yn hapus i farnu’r llywodraeth.

Llwgrwobrwyo (Kompas) Ugain mlynedd nol pan fues i’n byw yn Indonesia gyntaf doedd papurau a’r wasg byth yn barnu’r llywodraeth.Ar ddechrau’r nawdegau Suharto oedd Arlywydd y wlad (ffrind amheus Margaret Thatcher) ac yn unben gyda hanes o greulondeb mawr. Fe oedd ail Arlywydd Indonesia ar ôl ennill annibyniaeth oddi wrth yr Iseldiroedd ar ddiwedd y 40au. Buodd Suharto yn Arlywydd am 31 o flynyddoedd tan iddo ymddiswyddo yn 1998. Ers iddo ymddiswyddo mae’r wasg wedi cael mwy o ryddid. Ers cael gwared â Suharto mae’r wlad wedi datblygu’n gyflym ac yn tyfu o safbwynt economaidd ond fel mae’r stori nesaf yma’n ei ddangos mae yna rhai pethau sy’n datblygu lot arafach yn y wlad. Ym mhapur Kompas ceir hanes Cyn Prif dditectif Heddlu’r wlad sef Susno Duadji . Yn 2011 fe gafodd ei gyhuddo o dderbyn 500miliwn Rp (sef oddeutu £40,000) wrth iddo gael ei lwgrwobrwyo i setlo dadl am berchnogaeth fferm bysgod. Cafodd ei ddedfrydu i 7 mlynedd mewn carchar ond hyd heddiw dyw e dal heb fynd i garchar. Dyw’r cyhuddiad a’r ddedfryd ddim yn boblogaidd ymysg nifer yn y llywodraeth a hefyd yr heddlu yn gyffredinol. Mae’r llywodraeth yn trio dweud mai’r ffordd ymlaen yw peidio llwgrwobrwyo ond wedyn mae cymaint o dlodi yn y wlad a chyflogau mor isel, mae’n cael ei dderbyn fel rhywbeth sy’n rhan o fywyd bob dydd. Ond yn yr achos yma mae’r bobol gyffredin yn daer am waed Susno a dau ddiwrnod nol yn ôl Kompas fe wnaeth Arlywydd Susilno Bambang Yudhoyono(SBY) roi ei big i mewn trwy orfodi pawb i gyd weithio , y sefydliadau i gyd, yr heddlu, y rhai

sy’n erlyn ac i sicrhau eu bod yn arestio Susno Duadji - ond does dim son amdano ar hyn o bryd. Ac felly mae hyn yn codi’r cwestiwn a ydy’r wlad yn gallu gweithredu ei chyfreithiau. Un peth oedd cael gwared â Suharto ond cam arall yw cael gwared â’i etifeddiaeth.

ASEAN – (Jakarta Post) Un cam llwyddiannus yn natblygiad Indonesia yw ei rhan yn ASEAN (Association of Southeast Asian Nations). A’r wythnos hon maent wedi cael cyfarfod mawr yn Brunei. Amcan ASEAN yw cyflymu twf economaidd, cynnydd cymdeithasol a diwylliannol ymhlith ei aelodau, ac i amddiffyn heddwch a sefydlogrwydd rhanbarthol. Hefyd rhoi cyfle i’w aelodau drafod gwahaniaethau yn heddychlon. Mae 10 gwlad yn aelod a 2 wlad yn arsylwi sef Timor Leste a Papua New Guinea. Yn y cyfarfod gwnaed penderfyniad i symud Timor Leste (Dwyrain Timor) o safle arsylwi i gymryd rhan mewn trafodaethau yn y cyfarfod nesaf. Enillodd Timor Leste ei hannibyniaeth o Indonesia yn 2002. Fe wnaethon nhw roi cais i fod yn unfed aelod ar ddeg o ASEAN ym Mawrth 2011 ac yn wahanol iawn i hanes Indonesia a Dwyrain Timor mae Indonesia wedi croesawu’r wlad newydd yma ac wedi annog gweddill yr aelodau i’w derbyn. Papua–(Suara Baru) Rhan o Indonesia sydd ddim wedi bod yn ffodus o gael ei hannibyniaeth yn debyg i Timor Leste yw Gorllewin Papua . Mae Gorllewin Papua yn rhan o’r un tir a Papua new Guinea , sef pellafoedd dwyreiniol Indonesia ond daeth o dan ofal Indonesia yn 1963, lot hwyrach nag annibyniaeth gweddill y wlad wrth Iseldiroedd. Doedd yr Iseldiroedd ddim am roi Gorllewin Papua i ofal

llywodraeth Jawa gan ei bod yn teimlo bod y bobol o darddiad ethnig gwahanol . Felly cadwon nhw afael ar y wlad tan ei bod yn barod i fod yn wlad ar wahân . Erbyn y 50au credai’r Iseldiroedd a’r gwledydd Gorllewinol y dylai Papua fod yn wlad ar wahân ond oherwydd y rhyfel oer a bod Kennedy eisiau cadw ewyllys da Indonesia, rhoddwyd Papua dan ofal Indonesia - cafwyd rhyw fath o bleidlais gan y bobol ond roedd y bleidlais dan ofal byddin Indonesia, a chredir bod gynnau wrth ochr pennau rhan fwyaf y rhai oedd yn pleidleisio. Ac ers hyn mae OPM (sefydliad rhyddid Papua) wedi bod yn sefyll yn erbyn byddin Indonesia yn ceisio cael annibyniaeth lwyr neu ffederaliaeth gyda Phapua New Guinea. Mai y cyntaf leni, bydd 50 mlynedd ers i Bapua ddod o dan adain Indonesia. Ac yn y papur Suara Pembaruan maent yn codi’r cwestiwn ai dyma’r rheswm am y digwyddiadau diweddar ym Mhapua. Mae yna lot o gynnwrf a llofruddiaethau wedi digwydd -ar ddydd Sadwrn lladdwyd heddwas yn ei gartref gan niweidio dau aelod o’i deulu. Ac felly mae yna lot mawr o filwyr wedi eu danfon i’r rhanbarth oherwydd y sôn fod yna rhywbeth ar ddigwydd. Mae hanes Indonesia ym Mhapua , Gorllewin Timor ac Aceh yn amheus iawn o ran hawliau dynol. Cred y byd Gorllewinol bod y trais a gafwyd yn ystod Arlywyddiaeth Suharto wedi gorffen ond o fyw yn y wlad mae’n anodd credu nad yw’r math yma o drais dal i fodoli, yn enwedig gan mai Arlywydd SBY arferai fod arweinydd o fewn y fyddin a achosodd yr hil-laddiad yn Timor, ond dyw e byth wedi wynebu unrhyw gyhuddiad o’i droseddau rhyfel. Newyddion Rhyngwladol Wrth edrych ar y storiâu rhyngwladol yn y papurau mae’n ddiddorol nodi is deitlau'r adran Ryngwladol sef - Global, Palestina ac Israel, Y Dwyrain Canol, Asean. Ac i feddwl bod ein papurau ni wedi bod yn llawn o hanes marathon Boston , mae’r papurau yma wedi rhoi darlun mwy cytbwys o’r hyn sy’n digwydd yn y byd. Mae’n sôn bod Israel wedi ymosod gyda thaflegrau ar Gaza

ddiwedd Ebrill gan nodi bod cyfanswm o 177 Palestiniaid wedi eu lladd a thua 1,200 wedi eu hanafu ers Tachwedd 2012.

Orangutan –(Tempo) Ar nodyn ysgafnach mae papurau Indonesia wastad yn cynnwys stori am un o’i atynfeydd enwocaf sef yr Orangutan. Yn Tempo mae’n son am achub orangutan o Aceh , orangutan 2 flwydd oed o’r enw Jack a’i ddanfon i Sumatra i gael maeth a gofal. Does dim llawer o Orangutans yn byw yn wyllt yn Aceh ond mae kalimantan yn bostian ym mhapur Kompas am ei Pharc Cenedlaethol Tanjung Puting- ble mae’r Orangutan yn byw yn wyllt. Ceir ychydig o wybodaeth am yr anifail - ei bod yn hoff o fyw ar ben ei hun, a gall benyw ddim cenhedlu am 4 mlynedd ar ôl cael un bach. Ond yna mae’n mynd ymlaen i rybuddio’r merched fydd yn ymweld â’r Parc i wisgo’n “sopan”(gwrtais) sef peidio dangos coesau a breichiau gan fod gan orangutan ddiddordeb yn y ddynol ryw hefyd. Felly byddwch yn ofalus os ydych am ymweld â’r wlad rhywdro!